Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Rhagfyr 2022
Amser:
13.30 -
15.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13068
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Elizabeth Foster (Dirprwy Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.
2 Offerynnau statudol negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3B.
2.1 pNeg(6)004 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys.
3 Offerynnau negyddol arfaethedig sy'n codi materion i gyflwyno adroddiadd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
4 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
4.1 SL(6)294 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
5 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
5.1 SL(6)293 – Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5.2 SL(6)295 – Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
5.3 SL(6)292 – Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o eglurder, ac i anfon copi o’r ohebiaeth honno at y Pwyllgor Busnes.
5.4 SL(6)296 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
6 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes
6.1 SL(6)267 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
6.2 SL(6)291 – Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o eglurder, ac i anfon copi o’r ohebiaeth honno at y Pwyllgor Busnes.
7 Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
7.1 WS-30C(6)021 – Rheoliadau Asiantaethau’r UE (Dirymiadau) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y Gweinidog.
8 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
8.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Llywodraeth Cymru yn rhoi cydsyniad ar gyfer is-ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog, a chytunodd i ysgrifennu er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth.
8.2 Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) (Rhif 2) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Gweinidog.
9 Papurau i'w nodi
9.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
9.2 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
9.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.
9.4 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar Adroddiad Interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol.
9.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
9.6 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Ymchwiliad y Pwyllgor i Benodiadau Cyhoeddus
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
9.7 Adroddiad ar ail gyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
9.8 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
9.9 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog, a chytunodd i dynnu sylw’r Pwyllgor Busnes ato.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
12 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft
cr-ld15572-w.pdf (senedd.cymru)
13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol, a chytunodd arno.
15 SICM(6)2 – Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022: Trafod yr adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol.